Gwasanaeth cyflawn mewn un lleoliad

Gyda blynyddoedd o brofiad yn y busnes, rydym yn falch o gynnig gwasanaeth o safon uchel i’n cwsmeriaid. Y nôd yw i sicrhau eich bod yn dod yn ôl i ddefnyddio ni yn barhaol ac i sôn amdanom yn ffafriol

Fel garej anibynnol ac yn dilyn y ddeddf o’r enw Block Exemptions Regulations 2002, fe allwn ni wasanaethu eich modur newydd – does dim rhaid i chi fynd yn ôl at a garej gwreiddiol. Mae’r gallu gennym i ddefnyddio yr un gwybodaeth technegol, a gyda’r technegwyr profiadol yma gyda chyfoeth o brofiadau gycda chynyrchwyr amrywiol – fe allwn safio arian i chi a chadw’r warant yn gyflawn

Cymerwch olwg ar ein gwasanaethau isod, galwch nawr i drefnu amser i wasanaethu eich modur ar: 01286 675557

  • EV – Cerbydau Electrig

    Croeso i EV Gogledd Cymru,
    
    Mae EV Gogledd Cymru yn gwahodd perchnogion EV preifat a busnes i ddefnyddio ein gwasanaeth o ansawdd uchel. Mae ein gweithdy annibynnol wedi gwneud newidiadau i gefnogi gwaith ar bob cerbyd EV a Hybrid.
    
    Gyda 4 technegydd a chymwysterau llawn EV, rydym yn gallu sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn gywir, yn ddiogel ac i safon uchel iawn. Rydym yn defnyddio offer arbenigol i wneud yr holl wasanaethu ac atgyweirio ar gyfer pob EV.
    
    Ymwelwch â ni i gael yr holl anghenion gwasanaethu ac atgyweirio EV. Ffoniwch 01286 675557.
     
  • Gwasanaethu

    Mae gennym dîm profiadol yma, sydd wedi cael hyfforddiant o safon uchel, yn barod i edrych ar ôl eich modur, ac yn defnyddio’r offer diweddaraf i ddarganfod problemau yn sydyn

    Dros y blynyddoedd diweddar, rydym wedi datblygu ac ehangu’r gweithdy yn sylweddol ac erbyn hyn, mae gennym ni 8 ramp i wasanaethu a thrwsio ceir, yn ogystal â’r safle MOT.

    Rydym hefyd yn trin moduron masnachol ac erbyn hyn, mae gennym lawer o gwsmeriaid busnes ar draws yr ardal

    Rhowch ganiad ar 01286 675557 i archebu gwasanaeth ar eich modur , neu cysylltwch ar e-bost  info@bandkwilliams.co.uk

     
  • Teiars

    Mae gennym stoc o deiars priodol yma i unrhyw gyllideb ac yn ychwanegol, mae’n bosib i ni gael gafael ar unrhyw deiar mewn cyfnod o 24 awr. Mae’n gwasanaeth teiars yn cynnwys ffitio, falfiau a gwarediad yr hen deiar.

    Rydym yn gallu archebu teiars Kumho yn uniongyrchol ac ar sail hyn yn gallu cynnig prisiau eithriadol o gystadleuol ar deiars o safon. Hefyd, mae ein stoc arferol yn cynnwys: Pirelli, Debica, Michelin, Avon.

    Rhowch ganiad ar 01286 675557  neu cysylltwch ar e-bost  info@bandkwilliams.co.uk am brisiau cystadleuol

     
  • Diagnosteg

    Mae’r tîm o beirianyddion cymwysedig yma yn brofiadol, a llawer ohonynt gyda hyfforddiant enwedig gan Audi a VW.

    Mae ein cynlluniau hyfforddiant yn sicrhau bod y tîm yn cadw ar y blaen gyda’r datblygiadau diweddaraf ac yn ychwanegol, rydym yn buddsoddi’n barhaol mewn offer newydd i helpu’r tîm ddarganfod a dadansoddi problemau ar eich modur yn sydyn.

    Fe allwn drefnu asesiad ar fyr rybudd. Felly, os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich modur, galwch draw yn syth ac fe fyddwn yn hapus i’ch helpu. Rhowch ganiad i ni ar 01286 675557 i drefnu dod a’ch modur i mewn i’r garej , neu cysylltwch ar e-bost ar info@bandkwilliams.co.uk.

     
  • Profion MOT

    Mae’ tîm o beirianyddion cymwysedig yn gallu cyflawni profion MOT yn ein safle ar wahân, gyda safle i’r cwsmer ddisgwyl yn y dderbynfa – a chael cyfle am sgwrs a phanad o de neu goffi!

    Gallwn brofi :

    Dosbarth 4 (Ceir a faniau hyd at 3000 kg).
    Dosbarth 5L (bysiau mini).
    Dosbarth 7 (moduron masnachol 3000-3500kg).

    I archebu MOT, rhowch ganiad i ni ar  01286 675557 neu cysylltwch ar e-bost info@bandkwilliams.co.uk

     

Cysylltwch rwan i drefnu!

  Caniad     Ebost