Bryn with Kevin and Huw

Bryn gyda Kevin a Huw

 

 

 

Gyda sefydliad canolog yma yng Nghaernarfon, mae B& K Williams yn gwmni teuluol, gyda thros 35 mlynedd o brofiad. Yn y blynyddoedd ddiweddara ’roeddwn yn falch o groesawu Huw i’r cwmni, i ymuno a’i Daid Bryn a’i Dad Kevin , i ddechrau’r drydedd genhedlaeth yn B&K!

Dros y blynyddoedd diweddar, rydym wedi datblygu ac ehangu’r gweithdy yn sylweddol ac erbyn hyn, mae gennym ni 8 ramp i wasanaethu a thrwsio ceir, yn ogystal â’r safle MOT.

 

 

 

 

 

 

 

                 

Rydym hefyd yn trin moduron masnachol ac erbyn hyn, mae gennym lawer o gwsmeriaid busnes ar draws yr ardal.

Mae’r tîm o dechnegwyr lleol yn brofiadol tu hwnt, ac yn barod yma i edrych ar ôl eich moduron, gyda’r teclynnau diweddarai i ddarganfod problemau mecanyddol.

Rydym yn teimlon gynhyrfus am yr buddsoddiad rydym wedi rhoid yn yr busnes yn ddiweddar ar yr ochor Ceir Trydan a Hybrid, mae Tim a Rim wedi bod ar ei hyfforddiant EV ag Ianto a Huw yn dysgu ar y funud. Gofynnwch am fwy o fanylion a edrychwch ar ein tudalen Gwasanaeth.

Mae’r cwmni bellach yn falch i fod yn aelod o Servicesure Autocentres. Yn ogystal â chadarnhau’r prisiau gorau ar bartiau i’n cwsmeriaid, mae’r cyswllt yma yn rhoi cysur ychwanegol drwy gynnig gwarant genedlaethol am 12 mis ( neu 12,000 milltir) ar bartiau a llafur sydd wedi ei prynu drwy ddosbarthwyr Parts Alliance. Yn ychwanegol, drwy hyn mae yna gyswllt i’r Motor Ombudsman, sy’n rhoi mwy o gysur i’n cwsmeriaid drwy adborth a chynnig gwasanaeth ‘Alternative Dispute Resolution’ (ADR).

 

Mae’r garej yn asiant ar gyfer gwerthu teiars Kumho, a thrwy’r cysylltiad yma, mae’n bosib cynnig prisiau cystadleuol tŷ hwnt i’n cwsmeriaid. Fe fuaswn yn edrych i gadw stoc addas ar gyfer eich moduron.

Ein bwriad ar hyd y ffordd yw cynnig gwerth am eich pres, ac i drafod telerau cystadleuol i edrych ar ôl eich moduron – yn cydnabod ac yn deall pa mor bwysig yw cadw golwg ar gostau’r dyddiau yma. Gallwn drefnu casglu eich moduron a’u trosglwyddo yn ôl i chi, a chynnig modur cwrtais hefyd os oes angen. Drwy weithio dros y penwythnos ac oriau anghyffredin, gallwch drefnu dod a’ch modur i mewn i’w gynnal i gadw chi ar y lon drwy’r wythnos, heb effeithio ar eich busnes.

B & K Williams – y garej i wasanaethu eich modur yn gyflawn.

Moduron ail law – edrych i newid?

Os ‘rydych yn cysidro newid eich modur, dewch draw i gael golwg ar y stoc eang sydd yma, yn cynnig dewis cymharol i rywle yng Ngogledd Cymru

Rhowch ganiad ar 01286 675557 neu dowch i weld beth sydd ar werth yma.

B & K Williams yw y lle i ddod o hyd i’r modur iawn i chi!

B & K Williams Cyf

Rhif y Cwmni: 05472947