Mae cymryd golwg reolaidd ar eich teiars yn hanfodol, o safbwyntiau diogelwch a chynildeb. Ac mae hyn yn hawdd i’w wneud :
Pwysedd aer yn y teiars
Gyda chostau tanwydd yn codi ac yn debygol o godi ymhellach, mae cadw gofal ar bwysedd aer yn holl bwysig i wneud yn siŵr bod yr ‘mpg’ ar ei orau. Hefyd, gyda misoedd gwlyb ac oer o’n blaenau, mae’r pwysedd yn oll bwysig i sicrhau bod eich modur yn gafael ar y lon yn saff. Felly, mae’n angenrheidiol cael y mesurau yn iawn
Cadwch olwg am fanylion mesurau tu mewn i lawlyfr y modur, ar bostyn drws y modur neu o gwmpas yr agorfa i’r tanwydd. Fe dyle’r manylion gynnwys y mesur iawn i’r teiars blaen a chefn, gan ystyried hefyd y nifer o bobl sydd tu mewn i’r modur.
Ar ôl tynnu’r cap oddi ar y falf ar y teiar, cadwch olwg ar y monitor i sicrhau bod y pwysedd yn cyrraedd at y mesur iawn – os di’r mesur rhy isel, pwmpiwch mwy o aer i mewn, a gadael aer allan os di’r mesur rhy uchel
Proses digon syml, ond yn oll bwysig i gadw chi’n saff ar y lôn a safio pres!
Cyflwr y teiar
Proses syml unwaith eto, ond cymerwch olwg ar eich teiars yn rheolaidd, gan edrych am doriadau, craciau neu chwydd.
Galwch draw i B&K am gyngor os welwch chi rywbeth, i gysidro os oes modd trwsio’r teiar, neu roi un newydd ar yr olwyn.
Mae dyfnder y gwadn yn oll bwysig i gadw chi’n saff ac yn gyfreithlon ar y lôn – gan gysidro bod cosbau hyd at £2,500 / 3 pwynt cosb (y teiar) yn ddaliadwy os gewch chi eich dal!
1.6mm yw’r dyfnder lleiafrif ac mae’n hawdd mesur hyn wrth ddefnyddio darn 20c – 1.6mm yw mesur ymyl y darn yma – felly os gwelwch chi’r ymyl, mae’n amser newid y teiar!!
Ein cyngor ni i fod ar yr ochr saff ydi cadw at leiafrif o 3mm. Ar ôl hyn mae’r teiar yn dirywio’n sydyn. Dyma’r adeg i gael cyngor gennym ni i roi teiar newydd ar yr olwyn.
Dewch draw i’n gweld ni i fynd drwy’r dewis sydd gennym i siwtio eich cyllideb, gan gynnwys teiars Kumho, sydd yn ddewis da am brisiau rhesymol.
A chyn gorffen, peidiwch ag anghofio am y teiar sbâr!
