Mae’r gaeaf yma or diwadd, gyda’r rhybuddion gyntaf am eira wedi cael ei gyhoeddi’m gynharach yn yr wythnos. Felly mae’n amser dechrau meddwl am gadw yn gynes a saff tra rydych allan ar y ffyrdd, ag i ymdrin a phob posibilrwydd. Rydym yn awgrymu eich bod yn cadw ychydig o eitemau yn eich car – rhag ofn!
Isod mae yna eitemau a ddylia fod yn eich bag argyfwng, yn enwedig os ydych yn mynd ar siwrne hir:
- Crafwr rhew a di-rew – popiwch i fewn i gael crafwr rhew B&K am ddim!
- Tortsh a batris spar – neu tortsh weindio fyny
- Dillad a blancedi cynnes – i chi a pawb rydych yn ei gario – mi allwch fynd yn oer iawn os ydych yn sdyc
- Esgidiau cynnes
- Pecyn cymorth cyntaf – ddyliech gael un o rhain yn y car drwyr adeg
- Ceblau cychwyn – ohyd yn ddefnyddiol i’w gael yn y car
- Bwyd a diod cynnes mewn fflasg
- Rhaw
- Arwydd rhybydd adlewyrchol
- Atlas y ffordd neu SatNav – os oes gennych ffon symudol triwch gael app maps (ond ella ni fydd gennych signal felly mae map papur yn handi!)
- Sbectol haul – mae’r llacharedd oddiar yr eira ag yr haul mewn safle isel yn gallu eich ddallu
- ‘Charger’ ffon symudol – hanfodol i aros mewn cysylltiad
- Gwnewch yn siwr eich fod hefo digon o danwydd yn y tanc – peidiwch a’i adael i siawns
Efallai fod rhai o rhain i weld yn ormodol, ond maen’t yn gallu dwad yn handi so ydych yn cael eich dal mewn rhywle gyda tywydd drwg.
Ddim yn hawdd, rydym yn gwybod, ond triwch adael ychydig o funudau yn y bore i wneud ychydig o arolygiadau yn y reolaidd:
Jecio eich batri – mae goleuadau a gwresogi yn rhoid straen ychwannegol ar y batri yn y gaeaf
Jecio yr gwrthrewydd – mae’n nadu’r system oeri yn yr injan rhag rewi
Jecio eich goleuadau – ydi’r goleuadau i gyd yn gweithio yn iawn?
Jecio eich teiars – ydi’r pwysedd iawn ynynt? Tydi lleihau pwysedd y teiars ddim yn gwella y gafal!
Jecio eich ‘wiper blades’ – rydych angen yr help i gyd pan mae’r gwelededd yn wael
Os ydych yn aniscr am rhywbeth, dewch i mewn i’n gweld ni am GWIRIAD GAEAF AM DDIM a mi wnewn ni eich helpu i’ch cadw yn saff
Arhoswch i’r priffyrdd lle bo modd – maen’t yn fwy debygol o wedi gael halen
Cliriwch yr eira a rhew i gyd cyn rydych yn mynd ar y ffyrdd – Peidiwch a mynd yn edrych drwy twll bach yn y ffenest blaen – rydym i gyd wedi ei wneud…ond nid yw’n syniad da!
Peidiwch a rhoid dwr berwedig ar y ffenestr blaen – mi wneith gracio!! Amser rhoid y Crafwr rhew B&K i ddefnydd!! Ella meddyliwch am gael gorchudd i’r ffenestr flaen.
Ac ar ol hynny i gyd … cadwch yn bositif … mi fydd y Gwanwyn yma cyn i chi droi rwond!
Gyda dymuniadau gorau am yrru yn ddiogel a hapus y gaeaf hwn, oddi wrth pawb yn B&K.
